Bydd prisiau bwyd yn cynyddu yn sylweddol wrth i gost cnydau ddyblu dros yr 20 mlynedd nesaf, rhybuddiodd elusen Oxfam heddiw.

Yn ôl adroddiad yr elusen, Tyfu Dyfodol Gwell, bydd pris cnydau yn cynyddu rhwng 120% a 180% erbyn 2030.

Maen nhw wedi galw ar y Prif Weinidog David Cameron i annog arweinwyr eraill y byd i greu rheolau newydd er mwyn rheoli’r farchnad fwyd.

Ar hyn o bryd mae tri chwmni yn rheoli 90% o’r fasnach grawn, medden nhw.

“Mae’r system fwyd wedi methu,” meddai Barbara Stocking, prif weithredwr Oxfam.

“Rydyn ni’n cerdded yn ein cwsg tuag at argyfwng y byddai modd ei osgoi.”

Ychwanegodd fod “un o bob saith yn llwgu bob dydd er bod gan y byd y gallu i fwydo pawb”.

Yn ôl yr adroddiad fe fydd y galw am fwyd yn cynyddu 70% erbyn 2050, ond mae ein gallu i gynhyrchu’r bwyd ar i lawr.

Y bobol dlotaf fydd yn dioddef fwyaf, am eu bod nhw yn gwario 80% o’u hincwm ar fwyd, meddai’r elusen.