Mae 100fed pen-blwydd lansio’r Titanic wedi ei nodi ym Melfast heddiw.

Cafodd fflêr ei saethu uwchben porthladd y ddinas er mwyn nodi’r union funud – 12.13pm- y glaniodd y Titanic yn y môr am y tro cyntaf.

Cannodd pob un o’r llongau eu cyrn ym mhorthladd Harland a Wolff, lle y cafodd y llong o lynges White Star ei adeiladu.

Yn 1911 roedd miloedd o bobol wedi ymgasglu yn yr un lle er mwyn dathlu’r foment hanesyddol.

Yn 2011, clapiodd y dorf am union 62 eiliad – yr amser y cymerodd i’r llong rowlio i lawr y llithrfa i mewn i’r dŵr.

Suddodd y Titanic ar ei thaith gyntaf ar draws yr Iwerydd, 11 mis ar ôl iddi lansio. Bu bron i 1,500 o bobol farw o ganlyniad i’r trychineb.

Roedd nifer o ddisgynyddion y dynion helpodd i adeiladu’r cwch, a disgynyddion y rheini fu farw pan suddodd hi, yn rhan o’r gwasanaeth.

Dywedodd Maer Belfast, y cynghorydd Niall O Donnghaile, nad oedd digon o sylw wedi bod i ran y ddinas yn hanes y Titanic.

“Mae rhan Belfast a rhan pobol y ddinas wrth greu’r Titanic, wedi ei esgeuluso,” meddai.

Fe fu farw’r person olaf i deithio ar y Titanic, Millvina Dean, yn 98 oed yn 2009. Dim ond deufis oed oedd hi pan suddodd y llong ar y daith rhwng Southampton ac Efrog Newydd, yn 1912.