Ryan Giggs
Chwaraeodd Ryan Giggs yn gêm dysteb ei gyfaill, cyn-gapten Manchester United, Gary Neville, yn erbyn Juventus ddoe er gwaetha’r holl sylw yn y cyfryngau i’w fywyd preifat.

Echddoe defnyddiodd yr Aelod Seneddol, John Hemming, fraint seneddol i enwi’r seren oedd wedi gofyn am orchymyn i wahardd unrhyw honiadau ei fod wedi cael perthynas â’r Gymraes Imogen Thomas.

Doedd y pwysau ar Ryan Giggs, 37, ddim yn amlwg wrth iddo helpu i greu gôl Wayne Rooney a roddodd Manchester United ar y blaen cyn colli 1 -2 yn erbyn Juventus.

Doedd dim disgwyl i rai o sêr pennaf Manchester United chwarae, a dim ond am hanner awr y parodd Ryan Giggs a Wayne Rooney cyn cael eu heilyddio.

Roedd Paul Scholes, Nicky Butt, Phil Neville a David Beckham hefyd wedi chwarae – â’i gilydd roedd gan y chwech ohonyn nhw 3,323 cap.

Er gwaethaf rhan Ryan Giggs yn y gêm roedd hi’n amlwg fod y datguddiadau ynglŷn â’i fywyd preifat wedi cael effaith ar y rheolwr, Alex Ferguson.

Cafodd ei glywed yn sibrwd wrth un o’i gynorthwywyr y dylid gwahardd newyddiadurwr oedd wedi gofyn cwestiwn am Ryan Giggs o’r gynhadledd nesaf i’r wasg ar ddydd Gwener.