Llosgfynydd
Roedd disgwyl i’r cwmwl o lwch o un o losgfynyddoedd Gwlad yr Iâ glirio bore ma, ar ôl atal rhai awyrennau rhag hedfan yn yr Alban a gogledd Lloegr ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran Nats, sy’n gwmni rheoli teithiau awyrennau, y byddai llwch llosgfynydd Grimsvotn wedi chwythu i ffwrdd erbyn 1am.

Cafodd degau o deithiau i’r Alban a Newcastle eu canslo ddydd Mawrth, ond dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, ei fod yn gobeithio fod y gwaethaf ar ben.

“Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Swyddfa Dywydd yn dangos nad oes disgwyl y bydd yna unrhyw lwch yn yr awyr dros Ynysoedd Prydain erbyn 1am ddydd Mercher, 25 Mai,” meddai llefarydd ar ran Nats.

Brynhawn ddydd Mawrth, roedd y cwmni wedi awgrymu na fyddai’r llwch yn lledu ymhellach na gogledd y wlad.

Ond mae’n nhw wedi cynghori teithwyr i gadw llygad ar y newyddion diweddaraf cyn gadael am y maes awyr.

“Mae disgwyl i’r llwch adael gogledd Ynysoedd Prydain yn gynnar ddydd Mercher,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

Cafodd cwmnïau British Airways, Flybe, easyJet, bmi ac Aer Lingus eu heffeithio gan y llwch, wrth i tua 250 o deithiau gael eu canslo ledled Ewrop.

Effeithiwyd ar deithiau i mewn ac allan o feysydd awyr Glasgow, Caeredin, Newcastle, Barra, Prestwick, Cumbernauld, Tiree, Carlisle a Durham Tees Valley.