Barack Obama
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi ei groesawu i Balas Buckingham gan y Frenhines heddiw ar ei ymweliad gwladol cyntaf i Brydain.

Fe fydd yr arweinydd yn sefyll ym Mhrydain am dri diwrnod ac yn mwynhau gwledd fawr yn y palas gyda’r Teulu Brenhinol, gan gynnwys William a Kate.

Dyma’r trydydd tro yn unig i arweinydd yr Unol Daleithiau deithio i Brydain am ymweliad gwladol mewn 100 mlynedd.

Daw ar adeg pan mae Prydain a’r Unol Daleithiau yn cydweithio yn agos ar faterion yn ymwneud â Libya, Afghanistan, a’r protestiadau ar draws y Dwyrain Canol.

Mewn erthygl ar y cyd ym mhapur newydd y Times dywedodd Barack Obama a’r Prif Weinidog fod perthynas y ddwy wlad yn un “hanfodol – i ni ac i’r byd”.

Roedd y Frenhines a Dug Caeredin yn disgwyl am yr Arlywydd a’i wraig Michelle Obama wrth fynedfa Palas Buckingham wrth iddyn nhw gyrraedd heddiw.

Mae’n debyg fod y Frenhines a Michelle Obama yn ffrindiau mawr ac wedi cadw mewn cysylltiad drwy lythyr a ffôn ers cyfarfod y G20 yn Llundain dwy flynedd yn ôl.

Dywedodd yr Arlywydd wrth y BBC cyn dechrau’r daith fod y Frenhines yn cynrychioli “popeth sy’n dda am Loegr”.