Mynedfa'r Uchel Lys
Mae’r Uchel Lys wedi gwrthod cais arall gan bapur newydd i gael enwi’r pêl-droediwr enwog a gafodd berthynas rywiol honedig gyda’r fodel Gymraeg Imogen Thomas.

Roedd Papurau News Group, perchnogion y Sun, wedi gofyn am ddileu gwaharddiad llys yn ei warchod.

Eu dadl nhw oedd bod y gwaharddiad bellach yn “seithug”, gan fod gwybodaeth am ei enw bellach ar led ar y We.

Mae papur y Sunday Herald yn yr Alban hefyd wedi cyhoeddi llun o’r chwaraewr ac mae cyfeiriad at y stori ar o leiaf ddwy o dudalennau’r enseiclopidia ar-lein, Wikipedia.

Ond fe ddywedodd Mr Ustus Eady nad oedd unrhyw awgrym hyd yn hyn bod cyhoeddi’r wybodaeth er lles y cyhoedd.

“Dyletswydd y llys yw parhau gyhyd ag y gall i geisio â gwarchod yr hawliwr [y chwaraewr pêl-droed], ac yn arbennig ei deulu, rhag ymyrraeth a phoeni,” meddai.