Alex Salmond
 
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud mai bardd o Gymru yw un o’r dylanwadau mwya’ ar ei wleidyddiaeth

Mewn cyfweliad arbennig gydag ysgolhaig o Brifysgol Bangor y llynedd, eglurodd Alex Salmond bod cerddi cenedlaetholgar RS Thomas wedi dylanwadu’n gryf iawn arno ers pan oedd e’n 18 oed.

“Y stwff gwleidyddol mae e’n ei hoffi, fel y buasech chi’n disgwyl,” meddai Jason Walford Davies, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor sy’n arbenigwr ar y bardd. “Yn amlwg roedd e’n trafod rhywun oedd wedi ffurfio’r hyn oedd e.

“Roedd ei ddarlleniad o RS mewn gwirionedd yn chwarae rôl sylfaenol yn ei benderfyniad i droi at achos yr SNP siŵr o fod. Roedd RS yn dangos iddo fe sut y gellid mynegi cenedlaetholdeb.”

 Darllenwch ragor yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.