Priodas Gostus?
Mae Banc Lloegr wedi dweud heddiw nad oes disgwyl i’r economi wneud cystal yn ail chwarter 2011 o ganlyniad i’r Briodas Frenhinol a daeargryn Japan.
Dywedodd economegwyr y Banc fod Dathliad Jiwbilî Aur y Frenhines ym mis Gorffennaf 2002 wedi cael effaith “gweddol fawr” ar dwf yr economi.
Penderfynwyd y byddai Prydain yn cael gŵyl band ychwanegol ar ddiwrnod y briodas a’r pryder yw na fydd busnesau wedi gwneud cystal o ganlyniad i hynny.
Mae pryder hefyd y bydd y daeargryn yn Japan ym mis Mawrth wedi effeithio ar ambell i gwmni ar Ynysoedd Prydain sy’n allforio a mewnforio o’r wlad.
Cyhoeddodd cwmnïau Honda a Toyota y byddai yna lai o waith i ffatrïoedd ym Mhrydain o ganlyniad i’r trychineb.
Syrthiodd Cynnyrch Domestig Gros Ynysoedd Prydain 0.5% yn chwarter olaf 2010 o ganlyniad i’r eira ddiwedd mis Rhagfyr.
Mae’r diwydiant ceir yn cynrychioli 1% o Gynnyrch Domestig Gros ac roedd perygl fod y daeargryn yn mynd i gael effaith sylweddol ar hynny, meddai Banc Lloegr.
“Cafodd y dathliad yn 2002 effaith eithaf mawr ar Gynnyrch Domestig Gros,” meddai llefarydd ar ran Banc Lloegr.
“Mae’r Briodas Frenhinol yn debygol o ostwng twf yn yr ail chwarter ond does neb yn gwybod eto sut effaith fydd o’n ei gael.”
Roedd disgwyl i’r economi ail-fywiogi yn y trydydd chwarter, meddai’r Banc.