Mae William a Kate yn byw yng Nghymru.
Mae mab Tywysog Cymru a’i wraig wedi mabwysiadu babi pengwin.

Cafodd Dug a Duges Caergrawnt bengwin o’r enw Acorn yn anrheg priodas gan Sŵ Gaer.

Ond fydd y babi pengwin ddim yn symud i Fôn at William a Kate Middleton yn y dyfodol agos.

Mi fydd Acorn yn parhau i fyw yn y sŵ, yn un o hanner cant o bengwins Humbolt.

“Mae wir yn anrhydedd gallu brolio bod y Tywysog William a Kate wedi mabwysiadu pengwin,” meddai llefarydd ar ran Sŵ Gaer.

“Ryda ni’n gobeithio y daw’r cwpwl hapus draw yn fuan i weld Acorn bach yn chwarae yn ei bwll.”

Roedd Sŵ Gaer wedi defnyddio safleoedd ar y We i ofyn i bobol pa un o’r 400 math gwahanol o anifeiliaid maen nhw’n gadw,  y dylai’r pâr brenhinol noddi.

Cafodd y pengwin poblogaidd dros 20% o’r bleidlais.

Mae pengwins Humbolt yn dod o Dde America ac ar restr o anifeiliaid sydd mewn perygl o ddiflannu am byth. Yn naturiol maen nhw’n byw ar arfordiroedd Chile a Peru.