Alex Salmond
Mae’r etholiad yn yr Alban wedi bod yn lwyddiant “ysgubol” i’r SNP, yn ôl arweinydd carismataidd y blaid.

Hyd yma mae canlyniadau yn awgrymu y bydd plaid genedlaetholgar yr Alban yn sicrchau buddugoliaeth hanesyddol, ac yn esgor ar lywodraeth SNP gryfach yn y Senedd yn Holyrood.

Mae darogan hefyd y bydd yn bosib cynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r wlad o fewn y pum mlynedd nesa’, os fydd yr SNP yn sicrhau mwyafrif o seddi.

Yn ôl arweinydd yr SNP mae’r ffaith fod ei blaid wedi ennill seddi ar hyd a lled yr Alban yn rhoi’r hawl iddi alw ei hun yn wir “blaid genedlaethol”.

“Rwy’n credu fod hyn yn dangos bod yr Alban wedi rhoi’r gorau i ymgyrchu negyddol,” meddai Alex Salmond.

“Rwy’n gobeithio, yn dilyn y canlyniad yma, y bydd diwedd ar yr ymgyrchu negyddol a’r codi ofn yng ngwleidyddiaeth yr Alban – dim mwy o fychanu gallu ymenyddol pobol yr Alban.”