Siopwyr yn Oxford Street, Llundain
Mae hyder cwsmeriaid wedi cwympo’n sylweddol yn ystod mis Ebrill  gan roi ergyd i obeithion am adferiad yn economi Prydain.

Yn ôl ymchwil grŵp GfK NOP, mae hyder ariannol pobol wedi cwympo’n gyffredinol yn ystod y mis gyda chwsmeriaid yn teimlo’n fwy anobeithiol am eu cyflwr ariannol eu hunain na dim arall.

Mae mesur cyffredinol y grŵp wedi cwympo  gan lithro dri phwynt i gyrraedd minws 31 – llawer is na’r minws 16 flwyddyn yn ôl.

“Ar ôl chwe mis heb symud economaidd, mae hyn yn ostyngiad sylweddol – un sydd yn newyddion drwg i’r Llywodraeth ac yn newyddion drwg i’r economi,” meddai Nick Moon, rheolwr Gyfarwyddwr Ymchwil Cymdeithasol GfK NOP.

“Mae’n awgrymu bod ymdrechion i sbarduno  twf yng Nghyllideb y mis diwethaf wedi methu â pherswadio’r cyhoedd, ac mae’n bosibl bod hyn i’w deimlo ar y stryd fawr”

Fe ddywedodd ei fod hefyd yn awgrymu “posibilrwydd real o ail ddirwasgiad”.

Twf bach

Ddoe, roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi twf bychan o 0.5% yn yr economi rhwng Ionawr a Mawrth eleni – gyda’r awgrym bod yr economi yn gyffredinol yn sefyll yn ei unfan.

Roedd GfK NOP wedi holi 2,015 o bobl rhwng 1 Ebrill a 10 Ebrill.