Andrew Marr, cyn-olygydd gwleidyddol y BBC
Mae dychanwr adnabyddus wedi cyhuddo cyn-olygydd gwleidyddol y BBC o ragrith ar ôl iddo fynnu gwaharddiad llys tra oedd yn gweithio fel newyddiadurwr.

Roedd Andrew Marr wedi ennill gorchymyn Uchel Lys ym mis Ionawr 2008 i rwysto’r wasg rhag dilyn stori am garwriaeth rhyngddo a gohebydd i bapur newydd cenedlaethol.

Ond mae Ian Hislop, golygydd y cylchgrawn dychanol Private Eye, wedi bod yn ymladd yn erbyn y gorchymyn ac wedi herio’r gwaharddiad.

“Fel holwr blaenllaw i’r BBC sy’n holi gwleidyddion am fethiannau mewn penderfyniadau, methiannau yn eu bywydau personol, anghysonderau, roedd yn beth eithaf afiach ar ei ran i gael gwaharddiad tra’n gweithio fel newyddiadurwr,” meddai Ian Hislop. “Dw i’n meddwl ei fod yn gwybod hynny, a dw i’n falch iawn ei fod wedi dweud ‘alla i ddim gwneud hyn rhagor’.”

Mewn cyfweliad gyda’r Daily Mail, dywedodd Andrew Marr, sy’n briod â’r colofnydd Jackie Ashley o’r Guardian, ei fod bellach yn teimlo’n ‘anesmwyth’ ynghylch y gorchymyn a gyflwynodd i warchod preifatrwydd ei deulu.

“Wnes i ddim dod yn newyddiadurwr i fynd o gwmpas i roi taw ar newyddiadurwyr eraill. Oes gen i gywilydd o hyn? Oes.”

Mae John Kampfner. prif weithredwr y mudiad Index on Censorship, sy’n ymgyrchu dros ryddid y wasg, wedi croesawu cyfaddefiad Andrew Marr.

“Er y gall fod amgylchiadau eithriadol pryd y gall gwaharddiadau fod yn angenrheidiol, rydym bellach yn gweld gorchmynion gwahardd yn cael eu defnyddio i guddio’r cyfoethog rhag cywilydd a hyd yn oed ddifrod masnachol.

“Rydym mewn perygl o greu rhwydwaith cyfrinachol o gyfiawnder cyfrinachol dynion cyfoethog.”