Mae pobl yn heidio i fanteisio ar eu cyfle olaf i geisio am docyn i Gemau Olympaidd 2012, meddai’r Prif Weithredwr Paul Deighton heddiw.

Gyda’r cyfnod chwe wythnos i geisio am un o’r 6.6 miliwn o docynnau i’r cyhoedd ar y we yn cau am 11.59pm heno, nawr yw’r amser i “geisio osgoi siom,” meddai Paul Deighton.

Mae 650 o sesiynau a 26 o chwaraeon dros gyfnod o 17 o ddiwrnodau i bobl ddewis, ac fe fydd pobl yn cael eu cyfyngu i 20 digwyddiad yr un.

Mae prisiau tocynnau’n amrywio o £20 i £2,012.

Fe fydd ceisiadau yn cael eu prosesu rhwng Mai 2011 a Mehefin 2011.

Fe fydd hysbysiadau’n cael eu gyrru yn ystod mis Mehefin drwy e-bost neu lythyr i’r rhai sy’n llwyddiannus.