Roedd cannoedd o bobl a phlant yn dyst i ddamwain erchyll mewn sioe yng Nghaint ddoe pryd cafodd dyn ei ladd wrth gael ei saethu allan o ganon.
Fe fu farw’r dyn 23 oed wrth i rwyd ddiogelwch fethu yn ystod y tric yn Detling.
Gyda’r rhwyd diogelwch yn gorwedd yn fflat ar y llawr, syrthiodd y dyn â’i ben gyntaf i’w farwolaeth.
Mae’n debyg bod tua 2,000 o bobl yn bresennol yn y dorf, gan gynnwys sawl plentyn pan ddigwyddodd y ddamwain.
Mae rhaglen a gwefan ‘Scott May Daredevil Stunt Show’ yn disgrifio sut mae rhwyd diogelwch tric y belen ganon ddynol wedi’i llunio i gwympo o fewn eiliadau o’r perfformiwr yn glanio arno.
Mae’r Heddlu wedi cadarnhau fod dyn wedi marw yn y digwyddiad ar ôl nam diogelwch.
Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Maidstone ond bu farw’n fuan wedyn. Mae ei deulu agosaf wedi’u hysbysu.
Roedd Scott May’s Daredevil Stuntshow wedi bod ar daith ym Mhrydain ers 1991.