corff dynol
 
Mae anadl ola’ gwr ar ei wely angau yn mynd i gael ei ddangos fel rhan o gyfres wyddoniaeth newydd gan y BBC.

Fe fydd ail bennod Inside The Human Body, a fydd yn cael ei darlledu ar BBC1 y mis nesa’, yn dangos Gerald, 84 oed, yn marw gartre’, yng nghwmni ei deulu.

Mae’r cyflwynydd, Michael Mosley, wedi dweud wrth gylchgrawn Radio Times y bydd yna rai pobol yn beirniadu’r rhaglen, ond mae’n dweud ei bod hi’n bwysig dangos bywyd fel ag y mae.

“Dw i’n gwybod fod yna rai pobol sy’n teimlo ei bod hi’n anghywir dangos dyn yn marw ar deledu, beth bynnag ydi’r amgylchiadau,” meddai.

“Er fy mod i’n parchu’r farn honno, dw i’n meddwl fod yna reswm tros ffilmio marwolaeth heddychlon, naturiol – ac mae honno’n farn sy’n cael ei rhannu gan nifer o bobol sy’n gweithio gyda’r henoed a phobol sy’n agos at farw.”

Mae’r gyfres yn dangos hefyd y foment y mae bywyd yn cael ei greu, anadliad cynta’ babi bach, datblygiad y corff rhwng yr arddegau a dod yn oedolyn, yn ogystal â’r ffordd y mae’r corff yn ei amddiffyn ei hun.

Mae marwolaeth Gerald yn rhan o ail bennod y gyfres, sy’n edrych ar y prosesau sy’n helpu’r corff i oroesi. Mae’n cynnwys hefyd ddyn sy’n gallu dal ei anadl am naw munud, dyn arall sy’n gallu nofio mewn dwr sy’n ddigon oer i ladd rhywun cyffredin, a dynes sydd wedi byw am ddeng mlynedd ar ddeiet o ddim byd ond creision.