David Cameron - 'ffafrau'n iawn'
Mae’r Prif Weinidog yn dweud ei bod hi’n iawn rhoi profiad gwaith yn ffafr i blant ffrindiau a chyfeillion gwleidyddol.

Roedd David Cameron wedi manteisio ar hynny ei hun ac mae ar fin gwneud hynny yn Rhif 10 Downing Street hefyd.

Mae ei ddatganiad ym mhapur y Daily Telegraph yn mynd yn hollol groes i sylwadau ei ddiprwy, Nick Clegg, yr wythnos hon.

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am i blant o gefndiroedd llai breintiedig gael cyfle am brofiad gwaith, yn hytrach na’u bod yn cael eu rhoi i gysylltiadau’r cefnog a’r pwerus.

Fe fydd yr anghytundeb cyhoeddus yn ychwanegu at y straen rhwng dwy blaid y glymblaid yn Llundain, wrth i’r ymgyrchu o blaid ac yn erbyn y bleidlais AV hefyd droi’n gas.

Cysylltiadau

Heddiw, fe ddywedodd David Cameron fod gan y Dirprwy Brif Weinidog “bwynt teg” cyn awgrymu nad oedd am gymryd unrhyw sylw o hynny.

Fe ddywedodd ei fod ar fin rhoi profiad – internship – i gymydog ac roedd yn credu ei bod hi’n iawn rhoi cyfleoedd o’r fath i gysylltiadau o bob math, yn gysylltiadau gwleidyddol neu ffrindiau.

“Dw i’n gwneud hynny a dw i’n bwriadu parhau i wneud hynny,” meddai. “Dw i’n teimlo’n gyfforddus iawn ynglŷn â’r peth.”