car heddlu
Mae bachgen 14 oed wedi syrthio i’w farwolaeth o chweched llawer bloc o fflatiau yn ne Llundain, ar ôl agor ei ffenest er mwyn sbïo allan.

Fe ddaeth pobol yn ymwybodol o’r ddamwain a ddigwyddodd ddydd Mercher, pan edrychodd brawd bach wythmlwydd oed Jovanni Peddie allan o’r ffenest wedyn a gweld ei frawd mawr yn gorwedd ar falconi islaw.

Fe aethpwyd â’r bachgen, a oedd yn gobeithio dod yn bensaer un dydd, i’r ysbyty, ond fe gyhoeddwyd ei fod wedi marw yn fuan ar ôl cyrraedd.

Mae ei fodryb, Cherry Peddie, wedi disgrifio ei farwolaeth fel “trasiedi” ac wedi rhoi’r bai ar y ffenestri sâl ar y stad lle’r oedd ei nai yn byw.

Roedd Jovanni Peddie yn ddisgybl yn Ysgol Westminster City, ac fe ddigwyddodd y ddamwain ym mloc Missenden ar stad Aylesbury Estate yn Walworth, Llundain.

“Roedd o’n fachgen hapus, bywiog a chrefyddol,” meddai ei fodryb. “Mae’r teulu’n gwybod ei fod o wedi mynd at yr Arglwydd.

“Mae ei rieni, Luanda (33) a Tony (42) yn ddagreuol iawn,” meddai wedyn. “Dydyn nhw ddim yn credu fod hyn wedi digwydd. Rydach chi’n clywed am y math yma o bethau’n digwydd, ond dydach chi byth yn disgwyl iddo fo ddigwydd ar eich stepen drws chi.”