Ty'r Arglwyddi yn llawn
Mae adroddiad wedi dweud bod yna ormod o Arglwyddi yn San Steffan a bod hynny wedi effeithio ar allu’r ail siambr i wneud ei waith.

Yn ôl adroddiad trawsbleidiol gan rhai o uwch aelodau Tŷ’r Arglwyddi mae angen lleihau nifer yr arglwyddi sydd yno er mwyn osgoi “canlyniadau trychinebus”.

Ychwanegodd yr adroddiad bod amcan y Llywodraeth o sicrhau cydbwysedd ymysg y pleidiau yn Nhŷ’r Arglwyddi yn “ffôl ac anghynaladwy”.

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, eisoes wedi creu 117 o arglwydd newydd ers mis Mai diwethaf, sy’n golygu fod yna bellach 792 o Arglwyddi.

Fe allai’r nifer gynyddu i dros 1,000 os yw’r Llywodreath yn bwrw ymlaen â chynllun i sicrhau cydbwysedd pleidiol.

Mae cael cymaint o aelodau yn costio gormod, meddai’r adroddiad, ac yn creu tagfeydd deddfwriaethol.

Does yna ddim digon o le i bawb eistedd ac mae’r arglwyddi yn ffraeo ymysg ei gilydd am amser i roi eu barn.

Mae’r adroddiad yn galw am gau drws y siambr i aelodau newydd a chyfyngu nifer yr Arglwyddi yn y dyfodol at 750 ar y mwyaf.

Yn ogystal â hynny mae’r adroddiad yn galw am roi’r gallu i arglwyddi ymddeol o’u gwirfodd yn hytrach na chael gadael pan maen nhw’n marw yn unig.