Mae’r dadlau rhwng y ddwy ochr yn y refferendwm ar y dull o ethol Aelodau Seneddol yn dechrau chwerwi wrth i arolwg barn ddangos y bleidlais ‘Na’ yn ennill tir.

Mae’r arolwg diweddaraf, gan ComRes i’r Independent on Sunday a’r Sunday Mirror, yn dangos y bleidlais ‘Na’ ar 43% – 6 phwynt ar y blaen i’r bleidlais ‘Ie’ ar 37%.

Mae cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yr Arglwydd Ashdown, wedi ymosod yn ffyrnig ar yr ymgyrch ‘Na’, sy’n cynnwys bron bawb o Aelodau Seneddol y Blaid Geidwadol, yn ogystal ag o leiaf 100 o Aelodau Seneddol Llafur.

“Mae’n amlwg mai eu strategaeth yw taflu hynny o fwd ag y gallwch, peidio â gadael i’r mater gael ei drafod yn agored a dychryn y cyhoedd dros y tair blynedd nesaf i bleidleisio dros warchod y grym y mae’r system bresennol yn ei roi iddyn nhw,” meddai.

Dywedodd ei fod yn parchu safbwyntiau gwahanol:

“Ond mae’n bryder mawr i mi nad yw’r rhai sy’n rhedeg yr ymgyrch ‘Na’ ddim un waith wedi cynnig dadl gadarnhaol dros y system bresennol ac wedi treulio’u hamser yn hytrach yn dweud celwydd am y Bleidlais Amgen.”

Wrth ymateb i’r arolwg barn, meddai Matthew Elliot, cyfarwyddwr yr ymgyrch ‘Na’, NO2AV: “Mae’r arolygon yn dangos bod pobl, wrth iddyn nhw ddysgu mwy am y system Bleidlais Amgen gymhleth, annheg a drud, yn deall pam ei fod y newid cwbl anghywir.

“Mae llawer o waith yn dal angen ei wneud i sicrhau nad yw Prydain yn wynebu llanast sy’n costio £250 miliwn, ond mae’n galonogol bod pobl Prydain yn adnabod syniad drwg pan maen nhw’n gweld un.”