Y Prif Weinidog, David Cameron (o wefan Rhif 10)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi addo newidiadau “priodol a sylweddol” i gynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Daw ei sylwadau ar ôl o Goleg Brenhinol y Nyrsys ddangos eu gwrthwynebiad trwy basio pleidlais o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi “saib” yn y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn gwrando ar bryderon am y cynlluniau, sydd wedi arwain at densiynau o fewn y glymblaid rhwng y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe ddywedodd David Cameron y byddau “elfennau allweddol” o’r cynlluniau – fel trosglwyddo rheolaeth o gyllidebau i feddygon teulu a thalu i ysbytai yn ôl eu canlyniadau – yn parhau.

“Ond rydyn ni’n edrych ar newidiadau priodol a sylweddol oherwydd mae arnon ni eisiau cael hyn yn iawn,” meddai’r Prif Weinidog ar newyddion Sky.

“Fe fydd rhai newidiadau gwirioneddol, rhai gwelliannau gwirioneddol, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n wir dweud nad yw aros lle’r ydyn ni, y status quo, ddim yn ddewis realistig.

“Mae angen inni ddiwygio’r gwasanaeth iechyd oherwydd mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio, cyffuriau drutach ar gael, triniaethau drutach, a phetaen ni’n aros yn ein hunfan dw i’n meddwl y bydden ni’n cael anawsterau gwirioneddol.”

Er i Andrew Lansley gyfaddef nad oedd wedi llwyddo i esbonio’i gynlluniau’n iawn, dywedodd David Cameron fod ganddo bob hyder ynddo fel Ysgrifennydd Iechyd.

“Dw i’n meddwl ei fod yn gwneud job ragorol,” meddai. “Dw i’n cymryd cyfrifoldeb llwyr gydag ef am bob un o’r newidiadau’r ydyn ni’n eu gwneud.”