Dinas Llundain
Mae degau o filoedd o redwyr yn cymryd rhan ym Marathon Llundain ar hyn o bryd.

Mae disgwyl y bydd hyd at 36,500 o athletwyr yn llwyddo i orffen y cwrs 26.2 milltir ar ôl ymlafnio trwy strydoedd Llundain i godi arian at wahanol achosion da.

Ymysg y rhedwyr mwyaf profiadol y mae’r Cymro Iwan Thomas, sy’n dal record Prydain am redeg 400m.

Ei obaith yw rhedeg yn ddigon da i gyfiawnhau prynu beic modur iddo’i hun:

“Fe wnes i addo imi fy hun os ydw i’n mynd o dan bedair awr, dw i am brynu Harley-Davidson imi fy hun fore yfory. Felly pedair awr yw’r targed, ond dw i’n meddwl y galla’ i wneud hyn os byddaf yn mynd ati o ddifrif.”

Mae’r tywydd yn ffafriol ar hyn o bryd – ar ddechrau’r ras yn Blackheath, roedd hi’n sych a’r tymheredd yn 9 gradd C (48F). Ond fe all y tymheredd godi i 19 gradd C (66F) erbyn canol y prynhawn wrth i’r rhedwyr groesi’r llinell derfyn ger Palas Buckingham.