Mae Rhyfel Irac wedi bod yn destun dadlau enfawr.
Mae dyn sy’n cysgu mewn pabell ar y pafin yn Llundain ers deng mlynedd, fel protest yn erbyn rhyfeloedd Irac ac Afghanistan, wedi colli’r hawl i gael aros yno.
Mae’r ymgyrchydd dros heddwch, Brian Haw, yn wynebu cael ei yrru o’i wersyll yn Sgwâr y Senedd ar ôl colli ei apêl yn erbyn gorchymyn i’w symud.
Roedd Maer Llundain, Boris Johnson, wedi ennill gorchymyn yn erbyn Brian Haw fis diwethaf i symud y protestiwr o’r gwersyll heddwch a gafodd ei sefydlu yn 2001.
Mae Brian Haw yn enwog am gynnal gwrthdystiad parhaol yn erbyn rhyfeloedd Afghanistan ac Irac ar Sgwâr y Senedd.
Mae ganddo babell ar y borfa yn y sgwâr ond mae ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn yr Almaen wrth iddo frwydro yn erbyn canser yr ysgyfaint.
Mae cyd-ymgyrchydd Brian Haw wedi dweud nad oedd hi’n meddwl bod y penderfyniad i wneud â chlirio’r ardal yn barod ar gyfer y briodas frenhinol.
Fe ddywedodd Barbara Tucker y byddai’n rhaid i Brian Haw gysgu ar y pafin yn agos i’r sgwâr pe bai’r Maer yn gorfodi’r gorchymyn.
“Pe bai’n dychwelyd, a fyddai’n ddiogel iddo fod mor agos â hynny i lif y traffig?” gofynyodd Barbara Tucker yn y llys.