Mae gohebydd i bapur newydd y News of the World wedi cael ei arestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i’r sgandal hacio ffonau.

Mae James Weatherup yn cael ei holi mewn gorsaf heddlu yn Llundain.

Ef yw’r trydydd newyddiadurwr i gael ei arestio ers i Heddlu Llundain ailagor eu hymchwiliad i honiadau bod staff y papur newydd yn hacio i negeseuon periannau ateb ffôn enwogion a gwleidyddion.

Yn gynharach y mis yma, roedd Neville Thurlbeck, 50, a Ian Edmondson, 42, wedi cael eu harestio a’u rhyddhau’n ddiweddarach ar fechnïaeth yr heddlu.

Fe wnaeth llefarydd ar ran yr heddlu gadarnhau bod dyn 55 oed wedi cael ei arestio am 8 y bore ac yr aed ag ef i orsaf heddlu yn Llundain.

“Mae’n dal yn y ddalfa’n cael ei holi ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i gipio cyfathrebiadau’n anghyfreithlon,” meddai.