Y gwrthdaro yn Llundain ddwy flynedd yn ôl
Mae dau ymgyrchydd amgylcheddol wedi ennill yn rhannol eu hachos Uchel Lys yn erbyn tactegau dadleuol yr heddlu wrth reoli tyrfaoedd yn ystod gwrthdystiadau G20 yn Llundain ddwy flynedd yn ôl.

Roedd Hannah McClure a Josh Moos, ymgyrchwyr ‘Plane Stupid’ wedi herio cyfreithlondeb techneg “dreisgar” o reoli tyrfaoedd a gafodd ei defnyddio gan yr heddlu yn eu herbyn mewn gwersyll yn Bishopsgate, 1 Ebrill, 2009.

Heddiw, mae’r Uchel Lys wedi dyfarnu nad oedd modd cyfiawnhau amgau’r dyrfa mewn un man – dull sy’n cael ei alw’n kettling – pan gafodd y dacteg ei defnyddio am 7.07pm – er y gallai’r heddlu fod wedi cyfiawnhau gwneud hyn yn hwyrach yn ystod y noson i gau ffyrdd bach.

Fe ddywedodd y ddau farnwr hefyd nad oedden nhw “wedi’u darbwyllo” fod “y weithred o wthio yn erbyn torf 15 person o ddyfnder” yn “weithred resymol angenrheidiol.”

Roedd yr Heddlu wedi cau’r dyrfa i mewn am dros bedair awr.

Mewn datganiad ar ôl yr achos, dywed Heddlu Llundain y byddan nhw’n apelio yn erbyn dedfryd y barnwyr.

Gwrthod un gŵyn

Ond fe wnaeth y ddau farnwr wrthod cŵyn arall gan y protestwyr fod yr heddlu wedi torri’r gyfraith wrth benderfynu cau’r gwersyll cyn iddo ddod i ben.

“Roedd gan yr heddlu ddyletswydd i glirio’r ffordd, na ellid ei wneud heb symud y protestwyr oddiyno gan ddefnyddio grym petai angen,” meddai’r barnwyr.

Hwn oedd y diwrnod y bu farw’r gwerthwr papurau newydd, Ian Tomlinson, ar ôl cael ei daro gan heddwas mewn protestiadau G20 eraill wrth y Royal Exchange.