Dylai holl nyrsys y Gwasanaeth Iechyd gael profion iechyd a lles blynyddol, yn ôl Coleg Brenhinol y Nyrsys.

Yn eu cynhadledd flynyddol yn Lerpwl, awgrymwyd y gallai’r asesiad corfforol a seicolegol ddigwydd ochr yn ochr ag asesiadau swyddi blynyddol.

Maen nhw’n credu y byddai’r cynllun yn helpu staff osod esiampl i gleifion ac yn dadlau bod mwy o brofion ar gadeiriau olwyn nag ar staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Does dim gwadu fod nyrsio yn swydd gorfforol anodd. Mae ar nyrsys angen lefel penodol o ffitrwydd corfforol,” meddai Claire Topham-Brown, nyrs o Peterborough.

Fe ddywedodd Adroddiad  Iechyd a Lles y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl fod angen iddo wneud mwy i wella iechyd staff.

Ar gyfartaledd, mae Staff y GIG yn cymryd 10.7 diwrnod i ffwrdd o’r gwaith y flwyddyn – mwy na chyfartaledd y sector cyhoeddus a bron ddwbl y ffigur 6.4 ar gyfer y sector preifat.

Mae salwch staff yn costio tua  £1.7 biliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd.