Alex Salmond
Mae arwyddion y gall Llafur ddisodli llywodraeth yr SNP yn yr Alban ar sail apêl i etholwyr bleidleisio yn erbyn y llywodraeth Dorïaidd yn Llundain.

Mae hyn yn debyg o daflu cwmwl uwchben lansiad maniffesto’r SNP yn Glasgow heddiw, lle bydd yr arweinydd, Alex Salmond yn pwyso ar etholwyr i ganolbwyntio ar etholiad yr Alban.

O ystyried yr holl arolygon barn gyda’i gilydd, maen nhw’n awgrymu y gall Llafur guro’r SNP o drwch blewyn yn yr etholiad ar Fai 5.

Ymysg yr aelodau a fyddai’n agored i golli ei sedd yn Glasgow mewn gogwydd o’r fath y mae Dirprwy Arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon.

Fel yng Nghymru, neges Llafur yw y dylai pleidleiswyr eu cefnogi er mwyn eu hamddiffyn rhag y Torïaid yn Llundain.

‘Etholiad i’r Alban’

Tasg Alex Salmond ar y llaw arall fydd ceisio hoelio’r sylw ar ras ddau geffyl rhwng yr SNP a Llafur.

 “Fe fyddwn ni’n dweud mai etholiad Albanaidd yw hwn,” meddai llefarydd ar ran yr SNP. “Mae’n ymwneud ag ethol llywodraeth i’r Alban, a dyna yw’r dewis sy’n wynebu pobl.”

Tra bod Llafur yn honni y byddai buddugoliaeth iddyn nhw’n ansefydlogi clymblaid y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llundain, mae’r SNP wedi cyhoeddi taflenni sy’n pwysleisio na fydd yr etholiad yn newid yn llywodraeth yn Llundain.

Mae rhai o ymgyrchwyr yr SNP yn rhybuddio bod neges Llafur yn taro tant yn ei hen gadarnleoedd traddodiadol fel Glasgow.

“Mae’n neges gref,” meddai un. “Fe all pobl ddweud ei bod hi’n chwerthinllyd ymgyrchu yn erbyn y Torïaid mewn etholiad Albanaidd, ond mae cymaint o gasineb tuag at y Ceidwadwyr o hyd mewn lleoedd fel Glasgow.

“Yr hyn y mae Llafur yn ei gynnig yw rhyw fath o apêl ramantus yn ôl at wleidyddiaeth yr 80au a’r 90au.”

Ymysg addewidion allweddol maniffesto’r SNP mae refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, rhewi treth cyngor, a chynnal gwariant ar wasanaethau rhad ac am ddim i bawb trwy wneud rhagor o arbedion effeithlonrwydd i wariant llywodraeth.