Mae babi deufis oed yn brwydro am ei fywyd yn yr ysbyty heddiw, ac mae’r dyn sydd wedi ei arestio ar amheuaeth o’i drywanu wedi ei gadw yn y ddalfa.

Daethpwyd o hyd i’r babi ar ôl i swyddogion yr heddlu gael eu galw i Alfred Road, yn ardal Handsworth, Birmingham, tua 10.45pm ddydd Gwener.

Aethpwyd â’r babi oedd yn dioddef o anafiadau difrifol i’r ysbyty ond mae bellach mewn cyflwr sefydlog yn dilyn llawdriniaeth brys, meddai llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Cafodd dyn 37 oed ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae’r heddlu yn parhau i’w holi.

“Mae’r babi yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Mae’n fyw ac wedi goroesi er gwaethaf sawl anaf difrifol iawn.”

Ychwanegodd eu bod nhw’n parhau i chwilio’r adeilad.