Mae grŵp ymchwil dylanwadol yr OECD wedi dweud y bydd economi Prydain yn tyfu yn arafach na gwledydd cyfoethog eraill y byd dros y chwarter nesaf.

Yr unig wlad yn y G7 fydd yn tyfu’n arafach na Phrydain, medden nhw, yw Japan.

Dywedodd yr OECD eu bod nhw’n disgwyl i Gynnyrch Domestig Gros Prydain dyfu 1% yn ail chwarter 2011, wrth i doriadau ariannol a phrisiau uchel ddechrau effeithio ar y wlad.

Serch hynny dywedodd y grŵp eu bod nhw’n credu fod economi Prydain wedi tyfu 3% yn chwarter cyntaf y flwyddyn, ar ôl crebachu 0.5% diwedd y llynedd.

Mae disgwyl i economi’r Unol Daleithiau dyfu 3.4%, Ffrainc 2.8%, a’r Almaen 2.3% yn yr ail chwarter.

Mae disgwyl i Gynnyrch Domestig Gros Japan syrthio o ganlyniad i’r daeargryn a’r tsunami yno fis diwethaf.

Fe allai tryblith yn y Dwyrain Calon godi prisiau olew all arafu twf yn y tymor canolig, meddai’r OECD.