Thusha Kamaleswaran (Llun trwy law'r heddlu)
Mae dyn 19 oed yn cael ei holi am y digwyddiad pan gafodd merch 5 oed a dyn 35 oed eu saethu mewn siop yn Llundain.

Fe gadarnhaodd Heddlu Llundain eu bod wedi arestio’r dyn brynhawn ddoe a’i fod yn cael ei holi mewn swyddfa heddlu yn ne’r ddinas.

Y gred yw fod y ddau wedi cael eu dal ar hap mewn brwydr rhwng gangiau ac mae rhagor o heddlu wedi eu hanfon i’r ardal er mwyn sicrhau na fydd dial.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau hefyd bod un o’r llanciau a oedd yn darged i’r ymosodiad wedi dod atyn nhw i gynnig gwybodaeth.

Sefydlog ond difrifol

Yn y cyfamser, mae teulu Thusha Kamaleswaran yn cadw gwylnos o gwmpas ei gwely – yn ôl yr ysbyty, mae’n sefydlog ond yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae’r dyn a gafodd ei saethu – perchennog y siop yn ardal Stockwell – hefyd yn ddifrifol wael.

Yn ôl rhai pobol leol, mae cymaint â 50 o gangiau’n gweithredu yn yr ardal.