Sian Williams (llun y BBC)
Mae cyflwynydd rhaglen BBC Breakfast, Sian Williams, wedi penderfynu gadael y rhaglen wrth iddo symud o Lundain i Salford.

Dywedodd asiant y cyflwynydd wrth bapur newydd y Daily Mirror ei bod hi wedi cael digon o ddeffro mor gynnar bob bore.

Mae’r sioe yn cael ei gynhyrchu yn Llundain ar hyn o bryd, ac mae gan y staff nes hanner nos heno i benderfynu a ydyn nhw eisiau symud i Salford ym Manceinion.

“Rydyn ni wedi bod yn siarad â’r BBC ers chwech i naw mis ynglŷn â rôl newydd na fyddai’n golygu ei bod hi’n gorfod codi mor gynnar,” meddai asiant Sian Williams.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC na fydd angen i unrhyw un wneud penderfyniad nes diwedd y mis, ac mai “dyfalu” oedd unrhyw beth cyn hynny.

Mae symud i Salford yn rhan o gynllun gan y gorfforaeth i ail-leoli 2,000 o swyddi y tu allan i’r brifddinas.