Nick Harvey - defnyddio milwyr yn bosib
Mae un o weinidogion y Llywodraeth wedi awgrymu y gallai milwyr o wledydd Prydain gael eu defnyddio ar y ddaear yn Libya.

Fe ddywedodd y Gweinidog Lluoedd Arfog, Nick Harvey, bod gwahaniaeth clir rhwng gyrru byddin i feddiannu’r wlad a gwneud rhywfaint o ddefnydd o filwyr yno.

Mae meddiannu llwyr wedi ei wahardd gan benderfyniad y Cenhedloedd Unedig ond roedd hwnnw’n caniatáu defnyddio pa bynnag drais oedd ei angen i warchod pobol gyffredin.

Ar un o raglenni’r BBC y bore yma, fe ddywedodd nad oedd yn gwrthod na derbyn unrhyw syniad penodol ynglŷn â’r dulliau o ymyrryd.

Roedd Nick Harvey’n cydnabod y gallai Libya gael ei rhannu gyda milwyr y Cyrnol Gaddafi a’r gwrthryfelwyr yn mehu â churo’i gilydd ond fe fyddai sefydlogrwydd yn ateb y bod dyngarol, meddai.

Daeth sylwadau’r Gweinidog ar ôl i David Cameron geisio tawelu meddyliau Aelodau Seneddol neithiwr – na fyddai Libya yn “Irac arall”.