Tai ar werth
Mae corff ariannol wedi rhybuddio bod llawer o forgeisi’n dechrau cyrraedd yr un lefelau peryglus ag yr oedden nhw cyn yr argyfwng ariannol.

Ac mae peryg, medden nhw, bod pobol yn mynd i fwy o ddyledion mewn ardaloedd fel Cymru a gogledd Lloegr.

Yn ôl yr FSA – yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol – fe fydd diweithdra ac effaith toriadau gwario’n golygu y bydd dyledion yn parhau’n uwch yng Nghymru.

Pryder mawr yr Awdurdod yw bod pobol yn cymryd baich morgais rhy drwm ac fe allen nhw fod mewn trafferth os bydd lefelau llog yn codi.

Lefelau 2007

Yn ôl y ffigurau diweddara’. Roedd bron draean yr holl forgeisi a roddwyd yn ystod naw mis cynta’ 2010 yn golygu fod pobol yn benthyg 3.5 gwaith mwy na’u hincwm – lefelau tebyg i rai 2007.

Roedd yr Awdurdod yn awgrymu bod pobol yn cael eu temtio gan y lefelau llog isel sydd ar hyn  bryd ond roedd angen i’r cwmnïau morgais wneud yn siŵr bod pobol yn gallu talu pan fydd llog yn codi eto.

Er bod llai na’r disgwyl o bobol wedi colli eu tai, roedd peryg bod y wir broblem yn cael ei chuddio, meddai’r Awdurdod.

Roedd y ffigurau’n dangos bod pobol yn cael cyfnod o ras ond roedd eu dyledion yn cynyddu.