Prifysgol Abertawe - un o'r rhai sydd wedi cwyno am y cynlluniau
Fe allai rheolau mewnfudo newydd wneud difrod mawr i brifysgolion gwledydd Prydain, gan gynnwys rhai yng Nghymru, meddai pwyllgor seneddol.
Mae adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cartref yn San Steffan yn galw ar y Llywodraeth i newid eu cynlluniau i gyfyngu ar roi fisas i fyfyrwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Maen nhw’n dweud nad yw’r ffigurau sydd gan y Llywodraeth yn ddigon da i seilio polisi arnyn nhw a bod angen diwygio’r drefn.
Arian mawr
Mae miloedd o fyfyrwyr o’r tu allan i’r Undeb yn dod i brifysgolion Cymru bob blwyddyn gan gyfrannu arian mawr mewn ffioedd. Mae nifer o’r prifysgolion eisoes wedi protestio’n erbyn bwriad y Llywodraeth.
Eu nod nhw yw cyfyngu ar fewnfudo trwy ei gwneud yn fwy anodd i fyfyrwyr ddod i wledydd Prydain i astudio ac gan ddileu eu hawl awtomatig hefyd i aros am ddwy flynedd wedyn i weithio wedyn i aros i gael gwaith. Maen nhw’n dweud bod y system yn cael ei chamddefnyddio.
Os bydd cynlluniau’r Llywodraeth yn cael eu gweithredu, fe fyddai’n rhaid i fyfyrwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd fynd yn ôl gartre’ ar ôl graddio cyn cael gwneud cais arall am fisa gwaith.
Mae undeb y myfyrwyr, yr NUS, yn dweud y byddai 70% o fyfyrwyr tramor yn cadw draw o dan amodau felly.
Barn y pwyllgor
Fe allai creu polisi ar sail tystiolaeth ddiffygiol arwain at danseilio’r sector addysg uwch, meddai Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, Keith Vaz.
“Yn achos myfyrwyr rhyngwladol, fe allai hynny wneud drwg mawr i’r Deyrnas Unedig, o ran enw da ac arian.
“Os bydd y drws yn cael ei gau, fe fyddan nhw’n mynd i rywle arall i astudio.”
Yr ymateb
Mae undeb y myfyrwyr, yr NUS, wedi croesawu’r adroddiad gan alw ar yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, i newid ei chynlluniau.
“Does dim amheuaeth y bydd gosod cyfyngiadau gormodol ar fyfyrwyr tramor sydd eisiau dod i’r Deyrnas Unedig i astudio’n chwalu diwydiant proffidiol iawn sydd werth £40 biliwn,” meddai Christina Yang-Zhang, Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol yr undeb.
Fe alwodd y llefarydd Llafur ar addysg uwch, Gareth Thomas, ar i’r Llywodraeth wrando ar argymhellion y Pwyllgor, ond mae’n ymddangos bod gweinidogion yn benderfynol o gadw at eu bwriad.
Yn ôl y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, dyw’r system ar hyn o bryd ddim yn rheoli mewnfudo nac yn atal colegau gwael rhag cymryd mantais o fyfyrwyr tramor.