Raoul Moat - carchar am oes i'r rhai a'i helpodd
Mae’r ddau ddyn a helpodd Raoul Moat yn ystod ei ymosodiadau treisgar wedi cael eu carcharu am oes heddiw.
Fe gafodd Karl Ness ac Ohuram Awan eu canfod yn euog yn Llys y Goron Newcastle dydd Gwener ddiwethaf am gyfres o droseddau yn dilyn achos llys pum wythnos.
Fe fydd rhaid i Karl Ness, 26 o Dudley, Gogledd Tyneside dreulio o leia’ 40 mlynedd yn y carchar, tra bydd Ohuram Awan, 23 oed o Blyth, Northumberland dan glo am o leia’ 20 mlynedd.
Fe gychwynodd Raoul Moat ar ei ymosodiadau ar ôl iddo glywed bod gan ei gyn gariad Samantha Stobbart gymar newydd.
Fe wnaeth Raoul Moat saethu Samantha Stobbart a lladd ei chariad Chris Brown cyn ffoi. Roedd Raoul Moat hefyd wedi saethu’r heddwas Pc David Rathband yn ei wyneb a’i ddallu.
Roedd y ddau ddyn wedi helpu Raoul Moat trwy ddarparu dillad a bwyd iddo wrth iddo guddio mewn coedwig yn agos i Rothbury, Northumberland.
Fe fu Moat ar ffo am dri diwrnod cyn iddo gael ei gornelu gan heddlu arfog. Fe wnaeth saethu ei hun yn ei ben yn y diwedd ar ôl gwarchae hir.
Fe gafodd Karl Ness ei ganfod yn euog o lofruddio Chris Brown a throseddau drylliau, tra bod y ddau ddyn yn euog o gynllwynio i lofruddio, ymgais i lofruddio a lladrata o siop tships.
“Ni ellir bychanu’r rolau a chwaraeodd y ddau yma. Er na fyddai’r troseddau wedi cael ei wneud heb Moat, mae’n anodd gweld sut byddai’r troseddau wedi cael ei gyflawni yn y ffordd yna heb Ness ac Awan,” meddai’r Barnwr Ustus McCombe.
Mae’r Ditectif Uwch-arolygydd Jim Napier o Heddlu Northumbria wedi croesawu’r dedfrydau.
“Mae gan y ddau ddyn amser hir i feddwl am eu gweithredoedd llwfr sydd wedi gadael un dyn yn farw, dau berson wedi’u hanafu’n ddifrifol ac wedi effeithio ar nifer eraill,” meddai Jim Napier.