Athro wrth ei waith
Ni ddylai pensiynau gweithwyr yn y sector gyhoeddus adlewyrchu eu cyflogau terfynol, ond yn hytrach eu cyflogau cyfartalog.

Dyna argymhelliad adroddiad sydd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth San Steffan, ac a gyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd y cyn-weinidog Llafur, yr Arglwydd Hutton, na ddylai gweithwyr dderbyn pensiynau sy’n seiliedig ar eu cyflogau pan oedden nhw’n rhoi’r gorau i’w gwaith.

Fe fydd y newid yn effeithio ar weithwyr yn y sector gyhoeddus gan gynnwys staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, athrawon, a’r heddlu.

Mae hefyd yn argymell na ddylai gweithwyr yn y sector gyhoeddus gael dechrau tynnu pensiwn nes eu bod nhw’n cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth.

Fe fydd yr argymhellion yn debyg o gythruddo undebau, sydd wedi rhybuddio fod miliynau o weithwyr yn y sector gyhoeddus yn barod i streicio er mwyn amddiffyn eu pensiynau.

Bygwth streicio

Dywedodd Dave Prentis, ysgrifennydd cyffredinol Unison, y dylai’r Llywodraeth alw trafodaethau brys er mwyn trafod yr adroddiad, yn hytrach na “brysio” i dorri ac wynebu gweithredu diwydiannol.

“Fe fydd hwn yn un ymosodiad arall ar weithwyr yn y sector gyhoeddus sydd eisoes yn gorfod talu’r pris am y diffyg ariannol, tra bod y bancwyr achosodd yr argyfwng yn y lle cyntaf yn parhau i fwynhau tal uchel a bonwsau,” meddai.

“Yn ogystal â dim codiad cyflog, a cholli swyddi, maen gweithwyr y sector gyhoeddus bellach nhw yn wynebu gweld y llywodraeth yn cipio eu pensiynau.

“Mae’r adroddiad yma yn dod a gweithredu diwydiannol yn agosach.”

Dywedodd yr Arglwydd Hutton y byddai’n cymryd sawl blwyddyn i roi’r newidiadau ar waith.

Ond ychwanegodd mai’r “realiti nad oes modd dianc ohono” yw y bydd rhaid i bobol weithio am yn hirach.

“Os ydyn ni’n bwrw ymlaen fel yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud, fe fyddwn ni’n taro’r creigiau,” meddai.

“Y perygl mawr ydi bod pobol yn byw yn hirach o hyd.”