Llys y Goron Manceinion (Llun y Gwasanaeth Llysoedd)
Mae dynes wedi’i charcharu am 15 mlynedd am gamdrin bachgen 11 oed yn rhywiol.

Mae Dawn Davies, 36, wedi’i dedfrydu gan Lys y Goron Manceinion, wedi i reithgor yno ei chael yn euog o 12 cyhuddiad o annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyw.

Fe glywodd y llys fel y targedodd Dawn Davies y bachgen, a’i orfodi i gael cyfathrach â hi.

Roedd hi, meddai’r dystiolaeth yn ei herbyn, yn arfer bygwth anafu’r bachgen pe bai’n ei gwrthod.

Fe gafodd Dawn Davies ei harestio ym mis Mai 2015, wedi i’r dioddefwr fynd at yr heddlu i ddweud ei stori.