Mae un o swyddogion arfog heddlu Llundain wedi ei ddiswyddo, wedi iddo dynnu hunluniau ohono’i hun a’u hanfon at ddieithryn tros y We.

Roedd Peter Stallard yn ei lifrau ac wrth ei waith, i fod, pan gafodd y lluniau anllad eu tynnu fis Rhagfyr y llynedd.

Roedd modd gweld cyfarpar y plismon anweddus.

Daeth panel disgyblu i’r casgliad ei bod yn amlwg o’r lluniau eu bod wedi eu tynnu mewn gorsaf heddlu, a bod hynny “yn is na’r safonau proffesiynol arferol, ac yn wir yn gamymddwyn difrifol.

“Yr unig gosb briodol oedd diswyddo unionsyth heb rybudd.”