Nasser Kurdy (Llun: PA)
Mae dyn 28 oed wedi’i gadw yn y ddalfa wedi iddo ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o drywanu llawfeddyg o Fwslim y tu allan i fosg.

Fe fu Ian Anthony Rook gerbron Llys Ynadon Manceinion, wedi’i gyhuddo o anafu, neu achosi niwed corfforol difrifol – yn ogystal â bod ag arfau peryglus yn ei feddiant.

Mae wedi’i gyhuddo o drywanu’r llawfeddyg, Nasser Kurdy, 58, wrth i hwnnw gerdded i Ganolfan Islam yn Altrincham, Swydd Caer, toc cyn 6yh ddydd Sul.

Mae disgwyl i Ian Anthony Rook ymddangos eto gerbron Llys y Goron Minshull Street ar Hydref 23.