Donald Tusk (Plaid Pobl Ewrop CCA 2.0)
Bydd Prif Weinidog y Deyrnas unedig yn croesawu Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, 
i Downing Street heddiw (Medi 26), er mwyn trafod Brexit.

Daw’r cyfarfod ond rhyw fis cyn y bydd y cyngor yn penderfynu os fydd modd dechrau trafodaethau am fasnach – mae anghydfod yn parhau dros faterion gan gynnwys ffin Iwerddon.

Dechreuodd y bedwaredd rownd o drafodaethau Brexit ym Mrwsel ddydd Llun, gyda’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yn mynnu “nad oes unrhyw esgusodion” dros rwystro camau ymlaen.

Dywedodd Prif Drafodwr Brexit Ewrop, Michel Barnier, bod cytuno ar faterion gan gynnwys hawliau dinasyddion yn “hanfodol” cyn bod modd dechrau trafodaethau masnach.

“Rydym yn agosáu at y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Michel Barnier. “Beth sydd angen arnom yn awr ydy eglurder.”

Mynnodd David Davis y byddai hawliau dinasyddion yn cael eu diogelu gan gyfraith y Deyrnas Unedig, a bod Prydain eisoes wedi cymryd camau i fynd i’r afael â chymhlethdodau’r ffin Wyddelig.