Mae rhan o draffordd yr M3 rhwng Llundain a Southampton yn dal i fod ar gau ers i’r gwasanaethau brys gael eu galw yno ychydig cyn 4 y bore yma.

Mae cannoedd o deithwyr wedi cael eu dal am oriau wrth i arbenigwyr difa ffrwydron ymdrin â ‘deunydd a allai fod yn beryglus’.

Dywed llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd yn gallu cadarnhau natur y cargo na chadarnhau a gafodd ei osod yn fwriadol ar y traffordd neu trwy ddamwain.

“Mae ein swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid o Wasanaeth Tân ac Achub Hampshire a’r tîm gwaredu ordnans ffrwydrol i ddarganfod beth yn hollol ydyw,” meddai.