Theresa May
Mae Theresa May wedi dweud y bydd cyfnod o ddwy flynedd o weithredu’r broses Brexit wedi i’r Deyrnas Unedig adael yn 2019.

Mewn araith yn Florence, addawodd y Prif Weinidog hefyd i gadw at ymrwymiadau gwledydd Prydain i gyllideb yr Undeb Ewropeaidd tan 2020.

Dywedodd na fydd Llywodraeth San Steffan na’r Undeb Ewropeaidd yn barod i weithredu trefniadau newydd Brexit ar 29 Mawrth 2019 pan fydd y dyddiad gadael swyddogol.

Yn ystod y cyfnod gweithredu wedi gadael, dywed Theresa May y bydd “rheolau a rheoliadau strwythur presennol yr Undeb Ewropeaidd yn parhau ac y byddai pobol o’r Undeb Ewropeaidd yn parhau i allu “byw a gweithio” fan hyn dan gynllun cofrestru.

A defnyddiodd ei haraith 35 munud o hyd i alw am “gytundeb strategol mentrus” ar y cyd rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd ar ddiogelwch.

Cynllun “ymarferol ac adeiladol”

Mae llawer o Frecsitwyr wedi ei chyhuddo o fradychu Prydain wrth addo i gyfrannu at gyllideb yr UE tan 2020.

Ond mewn datganiad heddiw, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig a bleidleisiodd i adael yn y refferendwm, fod y cynlluniau yn “ymarferol ac yn adeiladol.”