Ryanair (Llun: gwefan Ryanair)
Mae pwysau ar gwmni awyrennau Ryanair i gyhoeddi rhestr lawn o’r teithiau awyr y maen nhw’n bwriadu eu gohirio dros yr wythnosau nesaf.

Mae disgwyl i’r cwmni ohirio hyd at hanner cant o deithiau bob dydd am y chwe wythnos nesaf ar ôl iddyn nhw wneud camgymeriad wrth drefnu trefniadau  gwyliau peilotiaid.

Ar hyn o bryd mae’r cwmni wedi cyhoeddi manylion pa deithiau sydd wedi’u gohirio – hyd at ddydd Mercher. Ond mae pwysau arnyn nhw i gyhoeddi’r manylion llawn.

 

‘Diweddariadau cyson’

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y byddan nhw’n “parhau i anfon diweddariadau cyson” a’u bod yn “ymddiheuro i’r holl gwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio gan y gohiriadau.”

Yn ôl Ryanair, mae newid ym mlwyddyn gwyliau’r cwmni o fis Ebrill i fis Mawrth wedi effeithio ar sut y mae staff wedi cymryd eu gwyliau.

Ond mae cwsmeriaid wedi mynegi pryder am gost y newid ar eu trefniadau, ynghyd â phryder am fodd i ddychwelyd o gyrchfannau gwyliau.