Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhuddo Boris Johnson o “ymyrryd” ar ôl iddo gyhoeddi ei weledigaeth i’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, sy’n cael ei weld fel her i arweinyddiaeth Theresa May.

Dywedodd Amber Rudd ei bod yn “rhy brysur” yn delio gydag ymosodiad bom Parsons Green i ddarllen yr erthygl swmpus ond fe feirniadodd yr Ysgrifennydd Tramor am gyhoeddi’r darn adeg y ffrwydrad.

Roedd Amber Rudd, a oedd  o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a Boris Johnson wedi gwrthdaro a’i gilydd yn ystod ymgyrch y refferendwm.

Ar raglen  The Andrew Marr Show ar BBC 1 heddiw, fe gyhuddodd Boris Johnson o “ymyrryd”  gan ddweud bod arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson, “yn llygad ei lle” am feirniadu Boris Johnson am gyhoeddi’r erthygl pan oedd Llundain newydd fod ynghanol ymosodiad brawychol arall.

“Sefyllfa amhosib”

Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref nad oedd hi’n credu mai her am yr arweinyddiaeth oedd yr erthygl.

Serch hynny mae’r erthygl yn cael ei gweld fel ffordd o dynnu sylw at Boris Johnson, ac wedi’i chyhoeddi chwe diwrnod yn unig cyn i Theresa May gyflwyno ei gweledigaeth hi ar gyfer Brexit yn Fflorens.

Ac mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Vince Cable wedi dweud ar raglen  The Andrew Marr Show y dylai Theresa May roi’r sac i’r Ysgrifennydd Tramor gan ddweud ei fod wedi rhoi’r Prif Weinidog mewn “sefyllfa amhosib.”

Ar Twitter heddiw dywedodd Boris Johnson ei fod yn “edrych ymlaen at araith y Prif Weinidog yn Fflorens.”