Llun: PA
Mae adroddiad newydd yn nodi bod ansicrwydd Brexit yn gadael ei effaith yn barod ar rai o ardaloedd gwledydd Prydain.

Daw hyn wrth i fanc Barclays gyhoeddi eu ‘Map Ffyniant’ ar gyfer y Deyrnas Unedig am eleni gan grynhoi symiau rhanbarthol ar sail prisiau tai, cynnyrch domestig gros (GDP), cyfradd diweithdra ac oriau gwaith.

Mae’r adroddiad yn nodi fod Cymru, yr Alban, Llundain, gogledd ddwyrain, gorllewin a de orllewin Lloegr wedi gweld cwymp mewn ffyniant yr economi yn 2017.

Cymru – degfed ar y rhestr

“Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi gweld amrywiadau yn economi’r Deyrnas Unedig,” meddai Dena Brumpton, Prif Weithredwr Cyfoeth a Buddsoddiadau Barclays, ac ychwanegodd fod hynny’n cael ei “adlewyrchu” ar y map.

Mae’r map yn gosod Llundain ar frig y rhestr ranbarthol gyda chyfradd mynegai o 0.77 gyda de ddwyrain a dwyrain Lloegr yn ail a thrydydd.

Mae Cymru’n cael ei gosod yn ddegfed ar y rhestr o ddeuddeg gyda chyfradd mynegai rhanbarthol o 0.20, gyda Swydd Efrog a gogledd ddwyrain Lloegr y tu ôl iddi.

O ran rhestr y dinasoedd, Llundain oedd ar frig y rhestr o ddeg, gyda Chaerdydd yn cyrraedd y chweched safle.