cMae mwy na chant o bobol wedi’u harestio ar ddiwrnod cyntaf Carnifal Notting Hill, wrth i gannoedd o filoedd o bobol ddathlu ar y strydoedd yn Llundain.

Yn ol heddlu Scotland Yard, fe gafodd 106 o bobol eu dwyn i’r ddalfa ar ddiwrnod cyntaf i parti stryd gyda’r mwyaf yn Ewrop – traean o’r rheiny, 42, am droseddau’n ymwneud â chyffuriau.

Fe gafodd wyth o bobol eu harestio am fod ag arf peryglus neu gyllell yn eu meddiant; naw am droseddau’n ymwneud â’r drefn gyhoeddus, a deg am ymosod.

Fe gafodd naw o bobol eu harestio am droseddau rhyw; a chwech am ymosod ar swyddogion yr heddlu.

Mae’r niferoedd hyn yn cyfateb i’r 105 o bobol a gafodd eu harestio ar ddiwrnod cyntaf carnifal 2016.