Mae dyn 26 oed yn cael ei holi yn y ddalfa ar ôl anafu dau blismon â chyllell fawr y tu allan i Balas Buckingham nos Wener.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac o ymosod yn dilyn y digwyddiad ger cartref swyddogol Brenhines Loegr, ac mae’r heddlu’n trin y digwyddiad fel un brawychol.
Mae bellach wedi’i arestio o dan y Ddeddf Frawychiaeth.
Cyllell neu gleddyf?
Cafodd y plismyn fan anafiadau ar ôl iddyn nhw weld arf yng nghar y dyn a mynd ato i’w arestio, ac fe gafodd y dyn 26 oed driniaeth yn yr ysbyty am fan anafiadau hefyd.
Mae llygad-dystion yn dweud bod gan y dyn “gleddyf”.
Doedd y teulu brenhinol ddim yn yr adeilad ar y pryd, yn ôl adroddiadau.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth