Mae grŵp o aelodau seneddol wedi galw unwaith eto am ddatganol’r pŵer dros fewnfudo i ranbarthau a chenhedloedd y Deyrnas Unedig.

Riedd y Grŵp Seneddol Aml-bleidiol ar Integreiddio Cymdeithasol wedi galw am ddatganoli pwerau yn wreiddiol ym mis Ionawr.

Yn yr adroddiad dywedodd y grŵp “y dylai’r Llywodraeth ystyried datganoli ychydig o reolaeth dros bwerau polisi mewnfudo i genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig”.

Ac, yn eu hadroddiad diweddaraf, mae’r grŵp wedi ail ddatgan eu cefnogaeth i ddatganoli pellach.

Dan y system, byddai awdurdodau rhanbarthol yn medru creu niferoedd penodol o deithebau neu visas, ac yn medru asesu effaith mewnfudo ar wasanaethau cyhoeddus.

Yn sgil eu hymchwil diweddaraf mae’r grŵp bellach o’r gred y byddai’n rhaid i fewnfudwyr fyw mewn un o ranbarthau’r Deyrnas Unedig am dair blynedd cyn ennill yr hawl i fyw unrhyw le yno.

“Integreiddio”

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mi fyddai sustem ddatganoledig yn cymhlethu pethau ac yn achosi problemau i gyflogwyr.

“Mae integreiddio yn allweddol er mwyn sicrhau bod mewnfudwyr yn wynebu sefydlogrwydd economaidd a gyda rôl yn eu cymunedau lleol,” meddai llefarydd.

“Rydym wedi ymrwymo i wario £140 miliwn ar annog integreiddio mewnfudwyr ac ar nifer o brosiectau dysgu Saesneg. Mi fyddwn yn cyflwyno strategaeth integreiddio newydd yn fuan.

“Wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd bydd yn rhaid i ni gael sustem mewnfudo sydd o fudd i ddiddordebau’r Deyrnas Unedig. Bydd y cynigion yma yn cael eu cyhoeddi dros yr Hydref.”