Mae Syr Bruce Forsyth wedi marw yn 89 oed.

Mae’r diddanwr enwog wedi ei ddisgrifio fel “trysor cenedlaethol” gan Michael Grade, cyn-Gadeirydd y BBC.

Ac mae Cyfarwyddwr Cyffredinol presennol y BBC, Tony Hall, wedi dweud bod Bruce Forsyth “ymysg y diddanwyr gorau a welwyd yng ngwledydd Prydain”.

Fe gychwynnodd Bruce Forsyth ar yrfa ym myd adloniant yn llanc 14 oed, ac fe ymddangosodd ar deledu am y tro cyntaf yn 1939.

Yn fwyaf diweddar roedd i’w weld ar raglen Strictly Come Dancing.

Fe gafodd lawdriniaeth yn 2015 wedi iddo syrthio yn ei gartref yn Swydd Surrey.

A’r llynedd roedd yn rhy fregus i fynychu angladdau ei gyfeillion Terry Wogan a Ronnie Corbett.

Bu ei stamina yn syndod i nifer ac mor ddiweddar â 2013 roedd ar lwyfan Glastonbury yn dawnsio a chanu clasuron.