Ni fydd colofnydd y Sunday Times Ireland, Kevin Myers yn cael gweithio i’r papur eto yn dilyn ei sylwadau gwrth-Iddewig, meddai llefarydd.
Mae’r papur wedi ymddiheuro am y sylwadau yn tynnu sylw at y ffaith fod dwy o gyflwynwyr y BBC sy’n ennill y symiau mwyaf o arian, Claudia Winkleman a Vanessa Feltz yn Iddewon.
Mae golygydd y papur, Martin Ivens wedi ymddiheuro wrth y ddwy am “sylwadau annerbyniol i bobol Iddewig ac i fenywod yn y gweithle”.
Cadarnhaodd y llefarydd y bydd ymddiheuriad yn y papur yr wythnos nesaf.