Charlie Gard, a fu farw ddoe Llun: Drwy law y teulu/PA
Dywed rhieni Charlie Gard, a fu farw ddoe, eu bod nhw’n falch o’u “bachgen bach prydferth”.

Roedd y bachgen bach, a oedd yn dioddef o gyflwr geneteg difrifol prin, o fewn wythnos i gyrraedd ei flwydd oed.

Ymysg y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo mae’r Pab Ffransis, y Prif Weinidog Theresa May a Dirprwy Arlywydd America, Mike Pence.

Roedd y bachgen bach yng nghanol brwydr gyfreithiol a ddenodd sylw byd-eang dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd ei rieni, Chris Gard a Connie Yates, yn awyddus i fynd â Charlie i America am driniaeth arbrofol, ond roedd ysbyty Great Ormond Street, lle treuliodd y plentyn y rhan fwyaf o’i oes fer, yn mynnu na fyddai hynny er ei fudd. Fe ddyfarnodd yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys o blaid yr ysbyty.